Dwi heb flogio’n aml yn ddiweddar gan fy mod i nawr yn y brifysgol, a dwi ddim yn ffeindio’r amser rhwng yr astudio dwys (cysgu tan 1, cino, ambell i ddarlith, mas yn y nos) ond gan fy mod i adref nawr gyda mwy o amser i falu awyr, oni’n meddwl byddwn i’n achub ar y cyfle hwn i’ch diddanu chi unwaith yn rhagor.
Byddaf felly yn ceisio blogio’n amlach dros yr wŷl gan drafod pynciau megis, arweinyddiaeth y Blaid, Dirywiad Ieithyddol a sut y gellid ei rhwystro, hefyd trafod rhywbeth hollol wahanol, A yw Apartheid dal yn bodoli yn Ne Affrica?
Felly cadwch olwg dros y blog yn yr wythnosau nesaf, a gobeithio gallaf eich goleuo ar ambell i bwnc, ta waeth, diolch yn fawr i nifer ohonoch am eich cefnogaeth dros y misoedd diwethaf, trwy ddarllen y blog a gadael sylwadau yn gyson. Hoffwn ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd dda i chi gyd.

1 o sylwadau:
Da iawn! Byddaf yn edrych ymlaen at ddarllen dy bostiadau dros yr Wyl!
Post a Comment
Gadewch sylw i egino ddadl ond cofiwch barchu eraill!
Leave a comment to ignite debate but remember to respect others!