Yn ddiweddar fe rhyddhaodd Grŵp Llafur Sir Gâr ddatganiad i’r wasg yn hawlio eu bod nhw’n mynd i amddiffyn hawliau gweithwyr y cyngor yn erbyn unrhyw doriadau a grybwyllwyd yn cyflogau eu swyddi, yn enwedig y rhai hynny sydd yn ennill y lleiaf gyda’r cyngor. Gydag angerdd daeth eu canu amddiffynnol (sydd yn Saesneg yn unig mae arnaf ofn) ‘ We are dismayed at the reports we have been receiving at these swingeing cuts being forced on lower paid workers. We are determined to see that Team Carmarthenshire does all it can to give support to Council staff.” Am fwy o wybodaeth gweler blog Sirgar.
Hollol gwych feddyliais, mae’r blaid lafur wir yn gofidio dros bobl a gweithwyr Sir Gâr ond ydyn nhw? Dwi’n eitha’ hoffi’r siarad mawr ‘ma..... ond damo arhoswch funud, myfi oedd yn fyrbwyll! Rhethreg gwleidyddol yn unig ydyw. Onid yw’r Blaid Lafur mewn clymblaid gyda’r grŵp annibynnol ac felly’n rheoli Cyngor Sir Gaerfyrddin? Onid oes ganddynt felly dylanwad uniongyrchol ar bolisi cyflogau staff a blaenoriaethau cyllidebol yr awdurdod? Wrth gwrs bod ganddynt, peth rhyfedd felly bod grŵp Plaid Lafur Sir Gâr yn ymosod ar eu cynghorwyr sir eu hunain ar bolisi’r Sir? Does bosib?
Hoffwn i atgoffa grŵp Plaid Lafur Sir Gâr taw eu cynghorwyr nhw yw’r rhai hynny sydd yn eistedd ar fwrdd y prif weithredwyr, y bwrdd hynny wnaeth ganiatáu torri cyflogau’r gweithwyr. Eu harweinydd Kevin Madge o Garnant, Hugh Evans o Rydaman, a P.E.M Hughes o Borth Tywyn yw rhai o’r unigolion sydd yn ennill y cyflogau uchaf o fewn y cyngor, y bobl ddylanwadol hyn yw’r rhai sydd yn llunio polisïau’r cyngor ac felly nhw ddylai cymryd gyfrifoldeb llawn dros y toriadau hallt hyn, yn hytrach na phwyntio’r bys at fyd y rasta gwyn gan feio’r dyn yn y lleuad am eu holl broblemau. Tybed a fydd un ohonynt hwy yn derbyn lleihad yn eu cyflogau ?. Efallai’n wir bod y blaid Lafur yn Sir Gâr wedi gofyn cyngor oddi wrth eu cyfoedion yn Rhondda Cynon Taf?
Does dim dwywaith mi fyddwn yn clywed yr un hen gwyn adeg yr etholiad ‘Y Tori mawr cas wnaeth hwn, y Tori mawr cas sydd ar fai’ Mae’n drueni nad yw’r blaid Lafur am unwaith yn derbyn cyfrifoldeb dros yr hyn maent wedi gwneud ac anghofio eu cariad cuddiedig tuag at y blaid Geidwadol, ac agor eu llygaid a wynebu’r realiti er mwyn gwneud penderfyniadau nid yn seiliedig ar ideoleg na budd personol, ond gwneud yr hyn yr addawant ‘sefyll cornel Cymru’. Yn anffodus fydd hwn byth yn digwydd ond yn ddigon ffodus i ni yma yn Sir Gâr mae gennym blaid arall i droi tuag ati, Plaid Cymru.
Sawl un ohonoch sydd wir wedi syrffedu’n llwyr gyda phrisiau cynyddol tanwydd sydd wedi gosod baich arnom yn ddyddiol? Dros y tair blynedd diwethaf dydy ASau’r blaid lafur erioed wedi cefnogi galwadau Plaid Cymru dros gael sefydlogydd dyletswydd tanwydd. Defnyddiodd Plaid Cymru cynnig diwrnod y gwrthbleidiau ond ychydig fisoedd yn ôl i orfodi Llywodraeth y DU i gyflwyno sefydlogydd dyletswydd tanwydd. Roedd y blaid Lafur yn cefnogi cael sefydlogydd tanwydd yn gyhoeddus ond fe ataliodd y blaid rhag pleidleisio gyda Phlaid Cymru. Rheswm Peter Hain dros beidio â phleidleisio oedd am “nad ydym erioed wedi cymryd cynnig plaid cenedlaetholgar o ddifrif”. Eto ond fis yn unig yn hwyrach fe rhoddodd y blaid lafur gynnig gerbron y senedd yn galw am sefydlogydd dyletswydd tanwydd!. Mae’r elfen blentynnaidd difeddwl hynod blwyfol hwn o wleidyddiaeth yn gyffredin ymysg rhengoedd y blaid lafur a dyma’r fath agwedd anghyfrifol trahaus sydd yn effeithio ar fywydau beunyddiol trigolion Sir Gaerfyrddin a Chymru.
Credwch neu beidio ond mae na ddigonedd yn fwy i ddilyn parthed amryw wyneb neu safbwynt rhagrithiol y Blaid Lafur yn Sir Gâr. Dyma i chi blaid sydd o hyd yn canu cloch uchel ym mae Caerdydd parthed y fath fodd mae Cymru yn cael ei than gyllido gan drysorlys y DU a bod yn rhaid i Gymru wynebu toriadau sy’n fwy na gweddill Prydain ac hefyd yn anghymesur, maent yn iawn i ddweud hynny wrth gwrs. Mae Llywodraeth y DU yn torri cyllideb cyfalaf y Cynulliad hyd at 41%. Dyma’r gyllideb ar gyfer adeiladu trafnidiaeth gyhoeddus megis ysgolion, traffyrdd ac ysbytai. Ond eto mae’r Blaid Lafur yng Nghymru yn gwrthod cydnabod yn ôl ffigyrau diwethaf cyllideb Alistair Darling yn ystod Llywodraeth diwethaf y Blaid Lafur, roeddent wedi bwriadu torri’r gyllideb gyfalaf hyd at 45% sef 4% yn fwy na’r hyn mae’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ei wneud. Y toriadau hyn yw’r toriadau sydd yn effeithio’n uniongyrchol ar gyllideb flynyddol y cyngor sir heddiw.
Beth am drafod prisiau parcio ceir ym meysydd parcio’r sir? Os awn ni nôl i 2007 at gyfnod pan oedd y Blaid Lafur yn condemnio’n gyhoeddus unrhyw gynnydd mewn prisiau parcio ac yn ymgyrchu’n ffyrnig i’w dileu, a nawr dod yn ôl i Ionawr 2011 pryd pleidleisiodd grŵp y Blaid Lafur ar y cyngor sir o blaid cynyddu prisiau parcio hyd at 25%, onid yw’r negeseuon gwahanol hyn a’r newidiadau sylweddol o fewn polisi’r blaid yn rhai sydd yn peri i ni ddrysu ychydig?
Mae’r Blaid Lafur yn datgan yn falch eu bod nhw’n rhyw ‘blaid y gweithwyr’ ond eto i gyd nid yw hyn yn amlwg yn sir Gâr na chwaith dros Gymru ben baladr. Roedd eu gwrthwynebiad i welliant Jonathan Edwards AS ar ostwng TAW o 20% i 17.5%, gostyngiad a fyddai wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i drigolion sir Gâr, polisi nodedig y llafur, yr un na llwyddant i baratoi gwelliant mewn da bryd ac felly Jonathan Edwards yn unig arweiniodd yr wrthblaid yn erbyn y Llywodareth ar y mater hwn. Er gwaetha’r holl rethreg, nid oedd y Blaid Lafur wedi cefnogi gwelliant Plaid Cymru. Gwleidyddiaeth plwyfol wrth y llyw unwaith yn rhagor. Nid yw’r Blaid Lafur yn blaid sydd yn sefyll dros y bobl ond yn hytrach maent yn sefyll dros eu hunain, yn unigolion.
Peidiwch da chwi i boeni serch hynny, mi fyddant allan yn eu hydoedd flwyddyn nesaf, yn canu’r un emyn dôn unwaith yn rhagor, ‘Y Toris mowr cas sydd ar fai, Y Toris mowr cas wnaeth bob drwg’. Nid wyf am un eiliad yn cymeradwyo’r ffordd ffiaidd y mae’r Blaid Geidwadol yn trin Cymru a’i phobol ond o leiaf pan yn pleidleisio Tori rydych yn gwybod mae Tori yw’r hyn y gewch. Wrth bleidleisio’r Blaid Lafur rydych yn cael haid o wyddau swnllyd sydd yn ymosod o bob cyfeiriad, plaid sydd yn ddigon parod i bwyntio bys a gweld bai, ond un sydd yn nodedig yn araf yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb pan mewn llywodraeth. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i annog unrhyw un yn Sir Gaerfyrddin, Cymru a’r DU sydd yn darllen y blog hwn i gofio safonau dwbl y blaid Lafur wrth gastio’ch pleidlais yn yr etholiadau lleol flwyddyn nesaf.
(You can see this post in English if you click here)
2 o sylwadau:
ydy pobl sir gaer yn ymwybodol o hyn?
Rwan ydy'r amser i fynd allan a dweud wrth bobl. Taswn i'n ymgeisydd y blaid, neu'n gynghorydd yn barod fyswn i allan bob nos rownd y tai yn gwneud yn siwr bod pobl yn gwybod pa fath o bobl sy'n rhedeg y cyngor
Wel dyna diben y flog i fod yn onest a mae na sôn ar flogiau eraill hefyd, sgwni a fydd Plaid Cymru yn rhyddhau datganiad yn lleol cawn weld.
Post a Comment
Gadewch sylw i egino ddadl ond cofiwch barchu eraill!
Leave a comment to ignite debate but remember to respect others!