Ceisiwch a chwi a gewch!
Mae’n ddywediad hynod hoffus, hynod boblogaidd ac un rydym i gyd yn gyfarwydd â. Mae’r dywediad uchod yn un y gallwn ddefnyddio i ddisgrifio Llywodraeth yr M4 hyd yn hyd ac hefyd arweiniad Carwyn Jones.
Mae’r tirlun gwleidyddol wedi newid yn aruthrol ers etholiadau datganoledig gwledydd yr ynysoedd hyn. Mae’r deyrnas unedig yn rhanedig, mae ‘na fygythiad real o Annibyniaeth i’r Alban ac felly mae ond yn iawn yn y bôn bod yr Alban yn arwain y ffordd ac yn hawlio pob pennod.
Yr un sydd wedi dod i’r amlwg yw bod gan Carwyn Jones rhyw gymhlethdod lle y mae’n teimlo’n israddol i Alex Salmond. Mae hyn yn amlwg wrth ei weld yn trafodi yn y siambr cyn y gwyliau lle yr oedd yn ymosod ar bob gyhuddiad yn ei erbyn o rengoedd Plaid Cymru parthed gwneud dim dros Gymru yn wahanol i Alex Salmond yn yr Alban. Mae hefyd wedi dod i’r amlwg wrth i’r wasg drafod y cyfarfodydd cabinet a gawsant fel arweinwyr y gwledydd datganoledig, Alex Salmond sydd wedi hawlio’r holl sylw i gyd tra bod ein Carwyn bach ni wedi eistedd ar yr ymylon heb hawlio fawr dim o sylw.
Fe gofiwn ni gyd oll am ddatganiadau y blaid Lafur o ‘Sefyll Cornel Cymru’ ond eto i gyd nid yw’n ymddangos o gwbl eu bod hwy na chwaith Carwyn wedi gwneud yr un peth radical na phellgyrhaeddol i frwydro achos Cymru lawr shua SanSteffan.
Yn wahanol i Alex Salmond wrth gwrs lle mae wedi ceisio, ac wedi cael. Ceisiwch a chwi a gewch ontife. Os felly mae’n peri i mi bryderu ychydig ar beth yn gwmws yw diben y Blaid Lafur dros y 5 mlynedd nesaf. A’i dyna yw’r bwriad? I beidio ag herio na chwaith brwydro fel bod Cymru’n syrthio ymhellach ar ei hol hi, ac fel eu bod yn gallu hawlio ein bod ni wedi cael ‘cam’? Rydym i gyd oll yn gwybod bod y Blaid Lafur yn ffynnu pryd daw newidiadau mawr, ac maent hefyd yn hoffi pwyntio’r bys i bob cyfeiriad er mwyn hawlio ein bod ni’n rhyw ‘ddioddefwyr sytem creulon toriaidd’.
Yr hyn sydd yn amlwg iawn i mi yw nad yw Llywodraeth y DU yn gweld unrhyw fygythiad gan Carwyn Jones a’i liwt ac felly nid ydynt yn ddigon parod i ymateb i’w ofynion chwit chwat yn erbyn gofynion radical a chynhwysfawr yr SNP yn yr Alban.
Beth mae hyn oll felly yn dweud wrthym ni yma yng Nghymru boed yn genedlaetholwyr Cymreig neu’n genedlaetholwyr Prydeinig? I fi mae’n cyfleu angen i bleidleisio dros unrhyw blaid fydd yn peri bygythiad i’r gyfundrefn Llundeinig ac yn y cyd-destun hwn Plaid Cymru yw’r unig ateb synhwyrol hyd yn hyn. Os yn gwneud hynny fel gwêl rheiny yn Llundain bod eu dyfodol hwy yn y fantol ac felly fe’u hymatebant i unrhyw ofynion i geisio tawelu’r dyfroedd ac ennill ychydig yn fwy o amser. (i weld Cymru 10 mlynedd yn y dyfodol – Gweler yr Alban heddiw)
Does fawr o ots os ydych yn cefnogi annibyniaeth neu beidio yn y cyd-destun hwn, ond rwy’n siŵr y cefnoga bawb yng Nghymru ariannu teg a chware teg yn debyg i’r Alban a gogledd Iwerddon. Os felly peidiwch â phleidleisio i blaid nad yw’n bygwth SanSteffan.
Nid yw Carwyn yn ceisio ac yn sgil hyn nid ydym ni yng Nghymru yn cael dim. Dwi’n ysgrifennu’r blog hwn am i mi golli bob ffydd ac hyder yn ein Llywodraeth yn barod ac hynny ond o fewn rhyw 10 wythnos o’u llywodraethu, nid yw’n argoeli’n dda felly. Tra bod Alex Salmond a’i garfan yn hawlio grymoedd syfrdanol er mwyn gallu rheoli a datblygu’u heconomi mae Carwyn Jones yn y newyddion yn sôn am osod tsipiau electronig mewn cŵn. Peidiwch a fy nghamddeall dwi’n caru anifeiliaid ac mae’u lles yn bwysig i mi, ond lle mae blaenoriaethau Carwyn parthed gwella’n heconomi?
Fe wnaethant gwatwar cynlluniau ‘bonds’ Plaid Cymru yn ystod yr ymgyrch etholiadol ond maent bellach yn cydnabod mae syniad gwerth ei halen ydoedd. Yn wir nid oes gan y blaid Lafur yr un cyfeiriad na chwaith uchelgais i wir gwella Cymru.
Gwelwch isod fy strip cartŵn newydd, wel am ymgais ontife :)
Ymddiheuriadau i rheiny ohonoch sydd yn dod o Sir Fôn gan nad yw'r map uchod wedi cofio amdanoch.
Gwobr a gwaith
-
Meddwl y byswn i’n rhannu llun o griw o bobol neis iawn efo chi: Cymysgedd
ydyn nhw o aelodau o bwyllgor Cronfa Goffa T llew Jones, trefnydd
cystadleuaeth ...
6 hours ago



2 o sylwadau:
Ma'r Carwyn Jones na isho cic ar ei din, i dweud y gwir, dwi wedi weld mwy o waeth galed gan Rhodri Morgan na'r lwmp yma, ma'n fel bachgen fach yn aros am yr athro deud wrtho be i neud a be dim i neud...beth yw uchelgais Jonsi bach? yn ol a'r blaid lafur, mae nhw am dod a mwy o waith i Gymru, i helpu pobl di-waith..i be? mynd ar y dôl? does dim rhaid i Jones cwyno achos does ddim lawer o busnesau yng Nghymru...mae o fel prif weinidog Cymru yn medru helpu Cymru, creu busnesau, creu waith, os mae llywodraeth Alex Salmond yn medru lleihau di-waith yn yr Alban fel y gall Jones ar mwncis bach yn Caerdydd!!
Mae nhw'n dwued bo ddim llawer o waith yng Nghymru, mae yna waith i bawb, mae hi yn bosib helpu pobl ifanc ar ol iddyn nhw gorffen ysgol i cael y gyfle i gael hyfforddiant, achos mae pawb yn yr wlad ma yn dda ar rhywbeth...mae hi yn bosib i greu buddsoddiadau rhyngwladol yng Nghymru, just bo geni neb yn yr llywodreath Cymru i wneud hyn yn bosib..
Hynny'n wir iawn Dylan, mae na snobyddiaeth swyddi yn bodoli hefyd lle mae pobl yn meddwl eu bod hwy'n rhy dda i wneud hyn a hyn ac felly mae'n foesol i fynd ar y dôl ond dyw e ddim yn iawn.
Mae gan y Saeson ddywediad gwych, 'You get what you pay for' ond yn y cyfystyr hwn, mae pobl Cymru yn cael yr hyn a phleidleision nhw drosto.
Post a Comment
Gadewch sylw i egino ddadl ond cofiwch barchu eraill!
Leave a comment to ignite debate but remember to respect others!