Dirywiad Ieithyddol yn Nyffryn Aman !
Yn wir dwi heb flogio am sbel ond mae nifer o bethau wedi bod yn digwydd yn ddiweddar, serch hynny mae na un pwnc sydd wir yn agos at fy nghalon, ac hynny yw cyflwr yr iaith Gymraeg yn Nyffryn Aman ac yn wir yn Sir Gâr ei hun, ond mae’r argyfwng fel petai yn waeth yn Nyffryn Aman, tybiaf nag yn unman arall yng Nghymru!
Yn wir i ddechrau hoffwn drafod y traddodiad o hel Calennig, rhywbeth digon syml yn y bôn, ond rhywbeth sydd hefyd yn gallu mesur Cymreictod ardal, ac i ba pwrpas y gwnaed defnydd o’r Gymraeg, mae’r traddodiad o hel Calennig yn un sydd yn hen iawn, ond hefyd yn un sydd bron yn unigryw i bob ardal, wrth gofio fod gan bob ardal ei chân neu gyfarchiad ei hun ac mae’r un yn wir am Ddyffryn Aman, neu yr oedd yn wir nes yn weddol ddiweddar.
Pan oeddwn i’n rhyw 6-12 mlwydd oed roedd nifer fawr ohonom yn mynd o gwmpas y tai yn hel calennig, ac yn gwneud ein ffortiwn hefyd cofiwch, dwi ond yn 18, ac mae’r traddodiad bron i bob pwrpas wedi marw mas ar ôl fy nghenhedlaeth i, llynedd yn ôl cymdogion daeth neb am y tro cyntaf erioed i hel calennig, ac mae hynny’n rhywbeth trist ar y naw, i ardal a oedd mor falch ei thraddodiad, a mor gadarn ei Chymreictod.
Y gân oedd yn gyfarwydd i ni yng Nglanaman oedd:
‘Blwyddyn Newydd dda i chwi, ac i bawb sydd yn y tŷ,
‘Dymuniadau da i chwi, acha’r blwyddyn newydd dda,
‘Blwyddyn Newydd dda i chwi, gwenu’n llawen,
‘Dyma’r flwyddyn wedi dod, y flwyddyn orau fi erioed,
‘Wel dyma hyfryd flwyddyn, Wel dyma hyfryd flwyddyn,
‘Wel dyma hyfryd flwyddyn, a blwyddyn newydd dda,
‘Olwch y teulu mas o’r tŷ, i ni cal golwg arnoch chi,
‘Wel dyma hyfryd flwyddyn, wel dyma hyfryd flwyddyn,
‘Wel dyma hyfryd flwyddyn a blwyddyn newydd dda.
Onid yw hyn yn profi bod ‘na argyfwng ieithyddol yn ardal Dyffryn Aman, rhywbeth mor sylfaenol a syml bod y traddodiad hwn wedi marw mas mewn mewn llai na phum mlynedd?
Y rheswm dwi’n sôn yn benodol am Ddyffryn Aman, yw un am fy mod i’n byw yno a dau am imi ffilmio gyda Tinopolis yn ddiweddar ar gyfer rhaglen fydd yn cael ei ddarlledu yn y mis bach (Chwefror) ar dynged yr iaith, a dyfodol yr iaith yn eu broydd naturiol, gan ganolbwyntio ar Ddyffryn Aman yn benodedig gan ei bod yn ardal o ‘gynllunio ieithyddol dwys’ gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_9220000/newsid_9228800/9228877.stm
Yn wir, ardal sydd â dwysedd uchel o siarad Cymraeg os nad yr uchaf yng Nghymru yw Dyffryn Aman, gyda rhyw 24,000 o bobl yn byw ymysg ei phentrefi a 74.57% o rheiny’n siarad Cymraeg yn ôl cyfrifiad 2001. Popeth yn edrych yn iawn felly ond ydy? Waw medde rhai ohonoch am ffigwr uchel a chanran iach, ond yn yr ardal hon ceir y cwymp fwyaf syfrdanol yng Nghymru.
Gweler Cwmaman fel enghraifft, Cyngor Trefol yw Cwmaman sydd yn cymhathu tri phentref yn y bôn, Glanaman, y Garnant a’r Twyn. Yn 1971 roedd 89.1% sef 3810 o holl bobl Cwmaman yn siarad Cymraeg, y ffigwr yn codi i 94% yn ward Tircoed, Glanaman ar y pryd. (Gweler: - http://www.terrynorm.ic24.net/ammanford%20twentieth.htm)
Heddiw dim ond 78.47% o holl drigolion Cwmaman sydd yn meddu ar un sgil neu fwy yn y Gymraeg sydd ddim o reidrwydd yn golygu eu bod hwy’n gallu siarad Cymraeg neu yn siaradwyr Cymraeg, mae’r ffigwr o bobl sydd yn gallu siarad Cymraeg bellach yn agosach at y 66 – 70% yn y pentrefi, sydd yn drasiedi enfawr colled o dros 20% yn y siaradwyr Cymraeg mewn llai na hanner canrif! ( Gweler: http://cy.wikipedia.org/wiki/Cwmaman_%28Sir_Gaerfyrddin%29 )
Beth allwn neud felly i adfer yr iaith yn Nyffryn Aman ac yn wir dros Gymru gyfan? Beth yw’r rheswm dros y dirywiad? Dyma rhai o bwyntiau dwi am geisio trafod a gobeithio ennyn trafodaeth ar y pwnc yr un pryd.
I edrych ar achosion y dirywiad, yn bersonol rwy’n teimlo bod yn rhaid i ni ofyn, beth wnaeth gadw’r Gymraeg mor hyfyw yn ardal Dyffryn Aman i gymharu ag ardaloedd eraill o gymoedd y de? Y gwir amdani yw bod yr ardal wedi profi gwyrth yn cadw’r iaith mor fyw o dan ddylanwad Seisnigeidig y meysydd glo a’r mewnlifiad.
Rhaid yw edrych felly ar y pethau wnaeth gadw’r Gymraeg yn briod iaith yn Nyffryn Aman, yng Nghwm Gwendraeth ac yn wir i raddau helaeth ym mhen uchaf Cwmtawe. Yn ddi-os mae dylanwad y Capeli Cymraeg yn un sydd yn brif ffactor ar gadw’r iaith yn hyfyw yn Nyffryn Aman, hefyd wrth ystyried y mewnlifiad pan oedd y meysydd glo ar eu hanterth, yn Nyffryn Aman mewnlifiad o Geredigion, gogledd Sir Gâr ydoedd yn hytrach na mewnlifiad o Loegr ac o Iwerddon, fel y profwyd yng Nghymoedd Cynon a’r Rhondda.
Yn draddodiadol hefyd roedd Dyffryn Aman yn ardal digon anghysbell i gymharu â chymoedd y de, yn y gorllewin gwyllt fel petai, yn uchel lan ar lethrau’r Mynydd Du a Bannau Brycheiniog. Dim ond ers dyfodiad yr M4 i Bont-Abraham y mae hyn wedi newid. Mae’r ffaith hefyd bod y meysydd glo wedi bod yn gyflogwr enfawr yn yr ardal yn un sydd yn brif ffactor at gadw’r iaith, bu ardal Dyffryn Aman yn draddodiadol fwy radical a blaengar ar ran hawliau gweithwyr, yn wir ffurfiwyd yr undeb gyntaf yn y Pick and Shovel yn Rhydaman, yn ystod streic y glowyr yn 1936. Golygodd hyn bod economi lleol yr ardal yn fwy ffafriol i weithwyr, a bod y diwydiant glo wedi para’n hirach nag ardaloedd cyffelyb yng Nghymru.
Beth mae hyn oll yn dweud wrthym felly? Wel bod ffyniant i’r iaith a chynaladwyedd ieithyddol yn ddibynnol iawn ar yr economi leol, a’i dyna felly yw rheswm y dirywiad yn ddiweddar? Ydy pobol yn cysylltu’r Gymraeg â thlodi economaidd? Yn sicr ers i’r pyllau cau yn y 70au a’r 80au yn Nyffryn Aman, dyna pryd dechreuodd nifer y siaradwyr Cymraeg hefyd ddisgyn, ac wrth i’r niferoedd ddisgyn, a thueddiadau cenedlaethol hefyd ar ran y capeli, dirywio a disgyn wnaeth y niferoedd oedd yn mynychu capeli lleol. Wrth ystyried bod y capeli wedi bod yn gadernid i’r Gymraeg ac wedi gweithredu bron yn uniaith Gymraeg, gan sicrhau bod plant trwy’r Dyffryn drwyddi draw yn hyderus eu Cymraeg ysgrifenedig, onid yw hyn felly wedi bod yn rhyw gylch ddieflig ac hefyd wedi ychwanegu’n fwy at y dirywiad ieithyddol?
Yr hyn sydd yn ymddangos cyn loywed â dwr fan hyn yw bod y canolfannau oedd yn cynnal yr iaith wedi gwanhau, y pyllau glo, y capeli. Yn sicr teimlaf yn bersonol bod y dirywiad economaidd wedi bod yn niweidiol iawn i’r Gymraeg, mae pobl wedi gorfod gadael y dyffryn i ffeindio gwaith, ys dywedodd Huw Chiswell yn ei gân enwog
‘Wel fe fu newid mawr,
ers iddyn nhw gau’r holl byllau ‘na lawr,
fel y gweli dy hun,
does dim nawr i ddal y bois rhag y ffin,
a thithe wedi magu blas,
am ragor o awyr las’
Mae’r gân hon yn un sydd yn agos at fy nghalon ac yn un sydd yn dysgu gwers i ni’r un pryd. Os am sicrhau parhad i’r iaith yn Nyffryn Aman, nid trwy ffurfio rhyw gwango dwl, a rhyw strategaeth bondigrybwyll, gan dwli arian i’r tân i bob pwrpas, y mae sicrhau dyfodol i’r iaith, ond trwy fuddsoddi yn yr economi, sicrhau bod ‘na swyddi i bobl leol, sicrhau bod pobl leol yn gallu fforddio tai ac yn gallu aros ym mro eu mebyd.
Yn wir dyw e ddim mor ddu arnom ag mae’n ymddangos yn Nyffryn Aman, mae mwy o blant heddiw yn siarad Cymraeg nag sydd o bobl dros eu 50au, mae mwy o blant yn derbyn eu haddysg yn Gymraeg nag oedd 30 mlynedd yn ôl, ond mae angen mwy, mae angen gwneud rhywbeth yn gymunedol, tynnu pobl i mewn, os am adfer yr iaith a sicrhau dyfodol iddi. Sai’n gwbod yr atebion i gyd, a fyddai fyth yn chwaith, ond waeth ni ddechrau rhywle!
Croesawaf unrhyw syniadau a thrafodaeth, mae’n hynod bwysig ein bod ni’n cynnal trafodaeth ar y sefyllfa, boed yn lleol neu’n genedlaethol.